Golygydd yn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi (Rhan Amser)
More details
Mae Cofnod y Trafodion yn wasanaeth hanfodol er mwyn galluogi’r Senedd i gyflawni ei huchelgais o fod yn sefydliad agored a thryloyw, a sicrhau bod modd i bobl Cymru, gwleidyddion a newyddiadurwyr ddilyn a darllen trafodaethau’r Senedd yn yr amryfal bwyllgorau a’r Cyfarfodydd Llawn.
Mae tîm y Cofnod yn rhan o’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi sy’n hanfodol er mwyn galluogi’r Senedd i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog drwy hwyluso’r defnydd o’r ddwy iaith swyddogol.
Mae’r swydd hon yn un cyffrous a bydd yn eich rhoi yng nghanol bwrlwm gwleidyddiaeth Cymru. Byddwch yn golygu trawsgrifiadau o gyfarfodydd y Senedd i’w cyhoeddi ar y we at ddefnydd staff y Comisiwn, Aelodau o’r Senedd a’u staff a’r cyhoedd yn ystod cyfnod hynod ddiddorol yn hanes democratiaeth Cymru. Bydd disgwyl ichi feddu ar sgiliau ieithyddol cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg a bydd angen i chi ddatblygu perthynas waith gref gyda’ch cydweithwyr o fewn y gwasanaeth hwn a gwasanaethau eraill.
Mae hon yn adeg gyffrous i weithio wrth galon democratiaeth Cymru yng Nghyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Senedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Cyflog
£35,159 - £42,634 - (Band Rheoli 2 – HEO) ynghyd â lwfans recriwtio a chadw (£3899.66). Pro rata.
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Patrwm Gwaith
Swydd ran-amser yw hon. Byddwch yn gweithio 15 awr yr wythnos gan ddilyn patrwm y byddwch yn ei gytuno â’r pennaeth gwasanaeth i gyd-fynd â’r anghenion busnes.
Bydd y rôl hon yn un ystwyth, gyda chyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref. Cewch y cymorth a’r cyfarpar angenrheidiol i ganiatáu i chi weithio gartref. Bydd yn ofynnol ichi fynd i’r swyddfa yn Nhy Hywel, Bae Caerdydd, yn ôl anghenion busnes. Bydd eich hyfforddiant cychwynnol yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb ym Mae Caerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.