Swyddog Cymorth Clercio y Swyddfa Gyflwyno
Bae Caerdydd
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n llwyddo mewn amgylchedd deinamig, yn croesawu newid, ac yn ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd uchel i'r gwasanaeth ehangach. Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i weithio wrth wraidd democratiaeth Cymru, yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Senedd. Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gydag Aelodau o’r Senedd, uwch swyddogion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ystod cyfnod pwysig yn nemocratiaeth Cymru.
Mae'r Swyddfa Gyflwyno yn darparu gwasanaeth diduedd, cyfrinachol ac o ansawdd uchel i bob Aelod o’r Senedd. Y swyddfa sy'n gyfrifol am dderbyn a phrosesu Cwestiynau a gyflwynwyd, cynigion a gwelliannau ar gyfer dadleuon, datganiadau barn, dogfennau a osodwyd a sicrhau bod deunydd o'r fath yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog ar y fewnrwyd a/neu y rhyngrwyd. At hynny, mae'r Swyddfa Gyflwyno yn gweithredu fel ceidwad Cofrestr Buddiannau'r Aelodau.
Fel Swyddog Cymorth Clercio, bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod busnes y Senedd yn cael ei reoli’n ddidrafferth ac yn effeithiol a bod Aelodau a staff yn cael gwasanaeth o safon uchel yn nwy iaith swyddogol y Senedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chlercod y Swyddfa Gyflwyno i sicrhau bod dogfennau busnes yn cael eu prosesu yn unol â Chanllawiau’r Llywydd a Rheolau Sefydlog y Senedd, a’u cyhoeddi’n ddwyieithog mewn modd amserol.
Mae’r swydd yn cynnwys cyswllt rheolaidd ag Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff Llywodraeth Cymru.
Oherwydd natur y gwaith, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gweithio tu hwnt i oriau craidd y swyddfa mewn amgylchiadau eithriadol er mwyn sicrhau bod unrhyw fusnes a gyflwynir yn cael ei gyhoeddi.
Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau trefnu o'r radd flaenaf; y gallu i ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau sy'n newid; sgiliau rhyngbersonol cryf a didueddrwydd gwleidyddol bob amser.
Byddwch yn gweithio gyda’r Aelodau ar gyflwyno cwestiynau a chynigion, yn eu cynghori ar y rheolau ynghylch cofrestru buddiannau, ac yn cefnogi gweinyddiaeth grwpiau trawsbleidiol. Bydd gennych ddawn i ddysgu am becynnau meddalwedd newydd, gyda'r nod o wella eich perfformiad fel unigolyn a pherfformiad y tîm mewn ffyrdd arloesol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Patrwm Gwaith
Swydd rhan-amser yw hon - 18.5 awr yr wythnos.
Er bod amodau gweithio hyblyg yn berthnasol, bydd angen gweithio oriau penodol er mwyn i’r swyddfa ddiwallu anghenion y Senedd a’r Aelodau. Gall fod angen gweithio'n gynnar neu’n hwyr ar adegau.
Oriau presennol y Swyddfa Gyflwyno yn ystod y tymor yw:
• Dydd Llun: 9:00 – 17:00
• Dydd Mawrth: 9:00 – 18:00
• Dydd Mercher: 9:00 – 18:00
• Dydd Iau: 9:00 – 17:00
• Dydd Gwener: 9:00 – 16:00
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.