Swyddog Addysg Allgymorth ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc (Gorllewin De Cymru) - Dros Dro
More details
Rydym yn recriwtio Swyddog Allgymorth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc dros dro i ymuno â’n Tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Byddwch yn darparu rhaglen allgymorth sy’n cynnwys ymgysylltu wyneb yn wyneb ac ar-lein i bobl ifanc yn Gorllewin De Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i gyfrannu at ddigwyddiadau ledled Cymru gyda’ch cydweithwyr yn y Senedd. Mae cyfathrebu â phobl Cymru yn un o swyddogaethau strategol allweddol y Senedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymgysylltu â phobl ifanc Cymru i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu cyfrannu at y dirwedd wleidyddol o’u cwmpas.
Gan weithio gyda gweddill y tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc byddwch yn helpu i ddarparu ystod o raglenni addysgol ar ystad y Senedd, a ledled Cymru i sicrhau bod addysgwyr a phobl ifanc yn ymgysylltu â gwaith y Senedd a dweud eu dweud ar faterion sydd o bwys iddynt. Byddwch yn cefnogi gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ac yn cefnogi ei chynrychiolwyr ifanc. Byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau ar gyfer y cynrychiolwyr yn Gogledd De Cymru, gan gynnwys penwythnosau preswyl yng Nghaerdydd.
Dylai fod gennych ddiddordeb brwd mewn sut y gall pobl ifanc ddylanwadu ar wleidyddiaeth Cymru, awydd angerddol i ymgysylltu ag ystod amrywiol o unigolion, a phrofiad o weithio gyda Phobl Ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Patrwm Gwaith
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Haelodau eu diwallu.
Bydd y rôl yn cynnwys trefnu a darparu rhaglenni amrywiol ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid ledled De-orllewin Cymru, er mwyn codi lefel eu diddordeb a’u dealltwriaeth o ddemocratiaeth, a galluogi pobl ifanc i ddweud eu dweud. Mae ardal Gogledd De Cymru y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ynddi yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
At hynny, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi gwaith Senedd Ieuenctid Cymru wrth gynllunio a gweithredu ei chyfarfodydd rhanbarthol, digwyddiadau cyhoeddus a phenwythnosau preswyl, a rhoi cymorth uniongyrchol i Aelodau o’r Senedd Ieuenctid yn eu hardal.
O bryd i’w gilydd, bydd rhywfaint o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd disgwyl i chi deithio fel rhan o’ch rôl, ac weithiau bydd gofyn i chi aros dros nos. Bydd cyfle i weithio gartref, a bydd disgwyl i chi rannu meysydd gwaith gyda chyd-weithwyr.
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch yn ogystal â gwiriad manylach gan y DBS.
Cyfnod
Cyflenwi cyfnod mamolaeth dros dro, gyda dyddiad cychwyn a ragwelir ar 1 Ebrill 2025. Disgwylir iddo bara am gyfnod hyd at 1 Ebrill 2026. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar secondiad, cyn belled bod eich cyflogwr presennol wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.