Tiwtor Cymraeg

Job Reference
SC-014-25
Location
Bae Caerdydd
Function
Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi
Salary
£37,523 - £44,766 (Band Rheoli 2 – HEO)
Status
Amser llawn
Job Type
Parhaol
Hours Of Work
37 awr
Closing Date
15 Meh 2025

More details

Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth hyblyg wedi'i deilwra i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth a staff y Comisiwn ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg. Ar y cyd ag aelodau eraill y Tîm Ieithoedd Swyddogol byddwch chi’n darparu’r cymorth hwn i ystod eang o ddysgwyr y mae ganddynt oll arddulliau dysgu a lefelau hyfedredd gwahanol iawn.

Byddwch yn atebol i Ddirprwy Reolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Mae’r Tîm Ieithoedd Swyddogol yn rhan o’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.

Patrwm Gwaith
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Aelodau eu diwallu.

Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.