Rheolwr Archebion Ymgysylltu - Dros dro (Iaith Gymraeg Lefel 4)

Job Reference
SC-031-26
Location
Hyblyg
Function
Ymgysylltu
Salary
£32,028 - £37,076 (Band Rheoli 3 – EO)
Status
Amser llawn
Job Type
Contract Dros Dro
Hours Of Work
37 awr
Closing Date
29 Medi 2026

More details

Rydym yn recriwtio Rheolwr Archebion dros dro o fewn y tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Byddwch yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws y Senedd i ddarparu gwasanaeth cwsmer di-dor ar draws ein holl wasanaethau ymgysylltu, gan sicrhau bod cyfathrebu clir yn ystod pob pwynt cyswllt wrth i ni alinio gwaith ein timau sy'n wynebu'r cyhoedd.

Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o arwain tîm bach yn ystod cyfnod o newid wrth i ni gyflwyno System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid bwrpasol a chymhwysiad archebion i wella cyfleoedd a gwasanaethau ymgysylltu â chwsmeriaid.

Byddwch yn helpu i ddatblygu a rheoli systemau busnes i alluogi'r tîm i gasglu gwybodaeth cwsmeriaid i archebu gweithgareddau a chyfleu'r archebion i'n rhanddeiliaid mewnol er mwyn gwneud yn fawr o gyfleoedd ymgysylltu.

Mae'r rôl hon yn gofyn am afael da ar fanylion, gallu datblygu prosesau clir, y gallu i flaenoriaethu adnoddau a'r gallu i ddangos hyblygrwydd wrth ddelio â blaenoriaethau gwrthgyferbyniol a sensitifrwydd gwleidyddol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.

Patrwm Gwaith
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Haelodau eu diwallu. Mae system rota wedi’i sefydlu ar gyfer y ganolfan gyswllt rhwng 08:20 a 17:30 o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8:20 – 17:00 ar ddyddiau Gwener, ac yn ystod y Toriad. Mae’r ganolfan gyswllt yn gyfrifoldeb a rennir gyda'r tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn fwy eang.

Cyfnod
Swydd dros dro yw hon. Disgwylir iddi ddechrau ar 1 Ionawr 2027 a phara tan 31 Rhagfyr 2027. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar sail secondiad, ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd eich cyflogwr presennol o flaen llaw.

Lleoliad
Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno (Gogledd Cymru) neu y Senedd, Ty Hywel, Bae Caerdydd (De Cymru). Bydd y rôl hon yn bennaf yn y swyddfa, a bydd cyfle i weithio o gartref 1-2 ddiwrnod yr wythnos yn dibynnu ar anghenion busnes.

Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.