Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
Bae Caerdydd
Rydym yn recriwtio Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, a leolir yng Nghyfarwyddiaeth Fusnes y Senedd yng Nghomisiwn y Senedd.
Mae gan bwyllgorau'r Senedd ystod eang o swyddogaethau craffu ar bolisi, craffu ariannol a chraffu deddfwriaethol. Maent yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cysylltiedig i gyfrif, gan gynnal ymchwiliadau, a chasglu tystiolaeth ar bynciau o bwys i bobl Cymru. Gweledigaeth y Comisiwn yw y dylai pwyllgorau'r Senedd ddangos eu bod yn gwella safon canlyniadau polisi, deddfwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant y Llywodraeth ar gyfer y gymdeithas gyfan yng Nghymru. Rhan hanfodol o'n gwaith yw cefnogi pwyllgorau i ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Bydd angen i'n dull ni ymateb i natur newidiol ymgysylltiad democrataidd mewn byd digidol.
Mae newid cyfansoddiadol wedi llywio a dylanwadu ar waith Pwyllgorau a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae natur datganoli yng Nghymru, a safle'r Senedd yng nghyfansoddiad y DU, yn parhau i ddatblygu. Bydd etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026 yn nodi'r foment pan gaiff Senedd fwy, o 96 o Aelodau ei hethol. Mae'r newid sylweddol hwn yng nghapasiti'r Senedd yn cyflwyno cyfleoedd newydd ond hefyd yn cynyddu disgwyliadau'r cyhoedd mewn perthynas â rôl graffu'r Senedd. Bydd pwyllgorau ar flaen y gad yng ngwaith y Seithfed Senedd a fydd newydd ei ffurfio.
Mae Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth yn darparu cefnogaeth weithdrefnol, cefnogaeth o ran polisi a chefnogaeth weinyddol i’r pwyllgorau polisi a deddfwriaeth. Rydym yn gweithredu model tîm integredig, sef dull cyfannol o ddarparu arbenigedd a chefnogaeth i bwyllgorau ac aelodau o bwyllgorau. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda chlercod eraill, ymchwilwyr, cyfreithwyr, staff cyfathrebu a staff cyfieithu, yn ogystal â chydweithwyr ar draws Comisiwn y Senedd, yn enwedig i estyn allan at bobl Cymru ac ymgysylltu'n effeithiol â nhw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Patrwm Gwaith
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Aelodau eu diwallu.
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.