Swyddog Cyfathrebu (Dros Dro – Rhan Amser)
Bae Caerdydd
Yn y Senedd, ein nod yw gosod dinasyddion wrth galon popeth a wnawn. Mae'r tîm Brand a Dylunio, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cyfathrebu, yn sicrhau bod ein brand yn gyson ac yn adnabyddadwy.
Fel y Swyddog Cyfathrebu, byddwch yn cefnogi ymdrechion dylunio gweledol a brandio'r Senedd, gan wella ein delwedd gyhoeddus a’r modd yr ydym yn cyfathrebu. Mae’r tîm yn gweithio ar draws holl adrannau Comisiwn y Senedd, gan ddarparu cymorth, cyngor, ac yn cymhwyso ein brand i bob deunydd. At hynny, byddwch yn cefnogi'r Uwch-arweinydd Cyfathrebu Strategol yn ei rôl o sefydlu prosesau cynllunio. Byddwch yn ei helpu i gasglu gwybodaeth o bob rhan o’r Senedd a thu hwnt a fydd yn caniatáu inni feddwl yn fwy strategol o ran sut a phryd yr ydym yn cyfathrebu, er mwyn cyrraedd ein cynulleidfa darged.
Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig a threfnus sy’n meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i'n helpu wrth i ni gryfhau ein tîm Cyfathrebu. Os yw hynny’n eich disgrifio chi, yna cysylltwch ar bob cyfrif – ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw i glywed gennych!
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Cyfnod
Dros dro am hyd at 1 Hydref 2026.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar secondiad, cyn belled bod eich cyflogwr presennol wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.
Patrwm Gwaith
Swydd ran-amser yw hon (22.12 awr yr wythnos). Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Haelodau eu diwallu.
Cyflog
£23,781 - £26,062 Pro Rata (Cymorth Tîm)
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.