Bydd deiliad y swydd hon yn rhan ganolog o'r tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau, sy'n darparu gwasanaethau i Aelodau o'r Senedd (Aelodau), a'u staff ledled Cymru, dan arweiniad y Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau.
Mae'r tîm yn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau hyfforddi a datblygu ac mae’n gyfrifol am arwain y gwaith o ymgysylltu ag Aelodau a'u staff cymorth o ran gwasanaethau a mentrau Comisiwn y Senedd i'w cefnogi i gyflawni eu rolau.
Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi i groesawu Aelodau'r Seithfed Senedd. Bydd hyn yn cynnwys darparu hwb newydd i Aelodau gael gwybod am wasanaethau, er mwyn symleiddio cyswllt wyneb yn wyneb am wasanaethau’r Comisiwn i Aelodau, yn ogystal â threfnu rhaglen groeso i roi’r wybodaeth a’r offer i Aelodau newydd a‘r rhai sy’n dychwelyd gyflawni eu rolau’n gyflym.
Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw wrth drefnu a rheoli gweithgareddau ymgysylltu gydag Aelodau a'u staff cymorth, a hynny ar lefel unigol, ar lefel tîm ac ar lefel sefydliadol. Byddwch yn datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda grwpiau’r pleidiau gwleidyddol i’w hannog i fanteisio ar wasanaethau’r Comisiwn ac i sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am ddatblygiadau sy’n effeithio ar eu gwaith.
Drwy gydweithio â chydweithwyr ar draws y sefydliad, bydd disgwyl i chi ddarparu gwasanaethau o safon uchel i gwsmeriaid, bod yn drefnus iawn a dangos eich bod yn gallu rheoli amryw o dasgau mewn ffordd egnïol a hyblyg. Bydd angen i chi fod yn broffesiynol a mynegi‘ch hun yn glir, a rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Byddwch yn angerddol am gefnogi Aelodau a'u staff i ddysgu a thyfu. Byddwch yn gweithio gyda'r rheolwr hyfforddiant ac yn ei gefnogi i nodi anghenion hyfforddiant parhaus yr Aelodau a'u staff cymorth, ar lefel unigol, ar lefel tîm ac ar lefel sefydliadol.
Byddwch yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn dangos chwilfrydedd wrth ddatblygu syniadau newydd. Byddwch yn frwdfrydig ac yn annog y tîm i ddarparu gwasanaeth rhagorol a rhaglen hyfforddiant o'r radd flaenaf.
Bydd angen i chi nodi, a lle bo'n bosibl, ddatrys problemau sy'n codi i Aelodau drwy argymell gwasanaethau a, lle bo'n briodol, hyfforddiant priodol. Mae bod yn graff a gallu nodi problemau ac uwchgyfeirio fel y bo'n briodol hefyd yn nodweddion allweddol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Patrwm Gwaith
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Senedd a’i Aelodau eu diwallu.
Sylwch y byddwn fel arfer yn recriwtio ar waelod y band cyflog
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwiriad diogelwch.